Cymraeg
Tipyn bach am Lynebwy
Croeso! Failte! Welcome! Bienvenue! Alright, butt!
(gan Paul Walbyoff a Robert Smith. Diolch i Phylip Brake am ei help gyda chyfieithu)
Ar hyn o bryd, mae Glynebwy yn chwarae yn Uwchadran y Principality ar ôl iddynt ennill y Bencampwriaeth am yr ail flwyddyn yn olynol, a chael eu dyrchafu ar ddiwedd tymor 2013-14. Cyn hynny enillodd y clwb Adran Un y Dwyrain yn 2010-11 a 2011-12. Yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr Uwchadran, gorffenodd yn yr ail safle, ac yn colli’r gêm derfynol yn erbyn Pontypridd, a oedd yn bencampwyr. Y tymor nesaf, cwrddodd y ddau dîm unwaith eto ar Heol Sardis yn y gêm derfynol ac, yn yr heulwen mwyn, enillodd Gwyr y Dur gan 38 pwynt i 12, i gipio teitl Pencampwyr yr Uwchadran a chwpla taith anghredadwy.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich taith chi, a’ch ymweliad â Glynebwy. Os oes gennych unrhyw sylwadau, e-bostiwch y gwefeistr.
Lleolir Glynebwy yn ne-ddwyrain Cymru ym mwrdeistref Blaenau Gwent. Ymhlith y bobl enwog sy’n hanu o Lynebwy mae’r dylunydd ffasiwn, Geoff Banks; rheolwr Oasis (a chyn-cadeirydd y clwb) Marcus Russell; Steve Jones, rhedwr Marathon a ennillodd y rhas yn Llundain ym 1985 a sy’n dal i gynnal record Prydeinig y Marathon (2:07:13 yn Chicago, yr un flwyddyn); chwaraewr snwcer, a chyn pencampwr y byd, Mark Williams; a’r diweddar seren sgrin/llwyfan, Brian Hibbard a gyrhaeddodd frig siartiau pop Prydain gyda’r ‘Flying Pickets’, a chael ffling gyda Deirdre yn ‘Coronation Street’! Ond unwaith eto, pwy (yn ôl y sôn) sydd ddim? Priododd Penny Tranter o Adran Dywydd y BBC, i mewn i deulu oedd yn berchen siop groser a blodau yn ‘Badminton Grove’ ac, wrth gwrs, dyna’r canwr pop enwog o Gymro, Tom Jones. Arhoswch funud, mae e’n dod o Bontypridd, er y gred yw ei fod unwaith wedi cael ei dalu (yn ôl y sôn) am beidio â chanu yn y Tŷ Bryn!
Yn ôl chwedl, defnyddiwyd dur o Lynebwy i adeiladau Pont Harbwr Sydney, ac mae 44,000 o friciau peirianyddol coch o Gendl yn cynnal Adeilad yr ‘Empire State’, tra bo dociau Southampton yn sefyll ar slag wedi ei fathru (amureddau wedi eu hoeri o wneud dur) o waith haearn Cendl.
Mae tref Glynebwy, a’r ardal o’i chwmpas, yn meddu ar orffennol diwydiannol cyfoethog – yn y lle cyntaf yn sgil cynhyrchu haearn a mwyngloddio glo, ac wedyn oherwydd y diwydiant dur – a dyna pam mai DYNION DUR (STEELMEN) yw llysenw Clwb Rygbi Glynebwy.
Yn sgil yr hinsawdd economaidd cyfnewidiol sydd ohoni, ynghyd â chynllwyniau cyfalafiaeth global, caeodd y pyllau glo a’r gwaith dur (a oedd yn ei ddydd, y gwaith dur integredig mwyaf yn y byd) a roddai swyddi i bobl Glynebwy a’r ardal o’i chwmpas. Y dyddiau hyn, mae llawer o bobl Glynebwy yn dal i weithio mewn cwmnïau lleol, tra bo eraill yn teithio bob dydd i weithio yng Nghasnewydd neu Gaerdydd.
Mae Glynebwy yn meddu ar hinsawdd falmaidd a mwyn. Dyw hi braidd byth yn bwrw glaw yma. Ni fu eira yma ers iddi friwlan rhyw ychydig yn ôl yn 1947, ac mae’r tymheredd cyfartalog blynyddol yn cymharu’n ffafriol â gorllewin Awstralia a’r Côte d’Azur. (Daw’r wybodaeth yma o waith clasurol Billy Bengy – a ystyrir gan lawer ei fod yn waith diffiniadol yr oes – sef ‘101 o Gelwyddau am Lynebwy’.)
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned a chlwb rygbi Glynebwy, gweler y cyhoeddiadau canlynol:
‘Steel, Skill and Survival: Rugby in Ebbw Vale and the Valleys (1870 – 1952)’ gan David Boucher.
‘Heritage: A History of Ebbw Vale (Volume 1)’ gan Keith Thomas. (ISBN 0948698098)
‘A History of Ebbw Vale’ gan Arthur Gray-Jones.
Sut i gyrraedd yma.
Satnav: NP23 5AZ
Gellir parcio ar bwys y clwb, yn y Ganolfan Ddinesig, neu ar y ffordd tu ôl i Westy’r ‘Bridgend’. Hefyd mae meysydd parcio aml-lawr yng nghanolfan y dref, ac ar gampws Coleg Gwent.
Trên pob awr o Gaerdydd Canolog yn galw am Rogerstone (Y Ty Du), Rhisga a Phontymeistr, Crosskeys, Trecelyn, Llanhilledd, Parcffordd Glynebwy a Thref Glynebwy. O’r orsaf, mae ond tro byr i Barc Eugene Cross.
Ar fws: Y prif gysylltiadau o ddinasoedd Caerdydd a Chasnewydd yw gwasanaeth bws X4 sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Henffordd drwy Bontypridd, Merthyr Tudful, Glynebwy a’r Fenni, yn y ddau gyfeiriad, a gwasanaeth 22 sy’n rhedeg rhwng Casnewydd a Glynebwy drwy Gwmbrân, Pontypwl ac Aberbîg, yn y ddau gyfeiriad. Dylech ymgynghori â’r cwmni, sef ‘Stagecoach’, cyn cychwyn.
Mewn awyren i Gaerdydd neu Fryste; mae gan y ddau faes awyr fynediad rhwydd i draffordd yr M4.
Ar yr heol yn teithio o’r M4
Gadewch yr M4 ar Gyffordd 28. Wrth y cylchfan yn syth ar ôl Cyffordd 28, anelwch am yr A467, gan ddilyn yr arwyddion am Risga a Bryn-mawr. Dyna’r tro cyntaf ar y chwith os dowch o’r gorllewin, ond ar y dde ichi, os byddwch yn dod o’r dwyrain.
Yn fuan iawn gwelwch gylchfan arall lle y dylech ddilyn yr A467 a’r un arwyddion. Mae hon yn ffordd ddeuol dda. Drwy gyfres o gylchfannau, cadwch ar yr A467, gan ddilyn yr arwyddion i FRYN-MAWR.
Oddeutu 12 milltir ar ôl gadael yr M4, ewch drwy groesffordd weddol fawr â goleuadau traffig yng NGHRYMLYN. Cyn ichi gyrraedd y goleuadau traffig yng NGHRYMLYN, fe welwch ar y chwith, ffatri’r gwneuthurwyr Hi-Fi/Fideo o Japan, sef AIWA.
Cariwch ymlaen, gan ddilyn yr A467, sydd erbyn hyn yn ffordd sengl. Wrth y cylchfan nesaf, trowch ar y chwith i’r A4046. Gwelwch arwyddion i BARC yr WYL ag wyneb fel clown arnyn nhw. Byddwch yn teithio ar hyd heol gul â choed pîn (pert iawn!), ac ar ôl ychydig filltiroedd, cyrhaeddwch dref fach CWM. Wrth y cylchfan, cymerwch y 3ydd fynedfa (yr A4046). Edrychwch yn eich tywyslyfr o stereoteips ac ystrydebau a throi at ‘olygfa nodweddiadol o Gymoedd Cymru.’
Yr A4046 yw’r heol yma o hyd. Cadwch ar yr heol hon hyd cyrhaeddwch WAUN-LWYD. Wrth deithio drwy WAUN-LWYD, gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd dros 30 mya (50 cya) gan fod yno nifer o gamerâu heddlu, a fyddech chi ddim angen ymddangos ar gyfres deledu Sky, ‘Pan fo Pobl yn Cyflymu drwy Waun-lwyd.’
Chwiliwch am y bwyty Indiaidd YR AMBALA, (yr hen Park Hotel) sef adeilad gerrig llwyd ar y dde ichi.
Bydd angen ichi fynd yn syth ymlaen, i lawr y rhiw i gylchfan ac yn syth ymlaen (ail fynedfa) unwaith eto – ac eto wrth y cylchfan nesaf (mynedfa gyntaf). Cymerwch yr ail fynedfa ar y cylchfan nesaf, ac ar ôl mynd dan ddwy bont, trowch i’r dde i Glwb Rugby Glynebwy.
O’r A465 (Heol Blaenau’r Cymoedd)
Ar gylchfan GLYNEBWY bydd rhaid ichi ddilyn y fynedfa a’r arwydd sy’n dweud, GLYNEBWY (mynedfa cyntaf o’r ddwyrain neu trydydd fynedfa o’r gorllewin).
Cariwch yn syth ymlaen, trwy gylchfan, a gwelwch Llys Glyncoed, Ysbyty’r Tri Chwm a meysydd chwarae ar eich chwith.
Wrth y cylchfan, cymerwch y fynedfa gyntaf. Ar y chwith mae’r Orsaf Dân. Cariwch yn syth ymlaen. Wrth y cyffordd nesaf (llawer o goleuadau traffig) mae Clwb Rygbi Glynebwy ar y chwith ichi.
O ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio, mae’r tirnodau ar bwys y maes yn cynnwys TESCO, y Canolfan Gwaith a’r Ganolfan Ddinesig. Os oes gennych amheuaeth, gofynnwch! Rydym yn gyfeillgar iawn, ac eithrio Jones, y senoffôb, wrth gwrs.
Llety a Lluniaeth Mae llawer o westai yn yr ardal o gwmpas Glynebwy – pob un ohonyn nhw o fewn taith car 15 / 20 munud o Lynebwy. Yn y dref ei hunan, cewch aros yn yr Ebbw Vale Guesthouse, yr Ambala neu’r Premier Travel Inn (nes i’r orsaf).
Diau y byddwch am brofi awyrgylch tŷ’r clwb, ‘The Welfare’, ym Mharc Eugene Cross, ond mae yna amryw o dafarndai o fewn cyrraedd y maes ar droed, yn enwedig Gwesty’r ‘Bridgend’ (tu mâs i’r brif fynedfa), y ‘King’s Arms’, ac yng nghanol y dref, mae’r ‘Picture House’ (tafarn J. D. Wetherspoon) lle gellir cael bwyd o ansawdd dda am bris rhesymol, y Saith Bwa (Severn Arches) a Level 14 (tafarn â cherddoriaeth fyw). Mae yng nghanol y dref nifer o gaffis a siopau bwyd parod lle gellir blasu bwyd o’r India, Tseina, Fietnam, yr Eidal a Twrci, cystal â chyw iâr wedi’i ffrïo, cebabs, a ‘sgods a ‘sglods traddodiadol. Hefyd mae’r restaurant Indiaidd rhagorol y ‘Tara Mahal’.
Ffoniwch y Clwb ar 01495 302995 am gyngor.
CEFNOGWCH EIN NODDWYR GWERTHFAWR NI OS GWELWCH YN DDA
LATEST NEWS
Match Preview – Pontypool RFC v Ebbw Vale RFCThe Steelmen travel to Pontypool Park this Saturday to face Pontypool RFC in the next round of Super Rygbi Cymru. The game will see the Steelmen look to win their […]
Read More