Sep 7th: Ebbw Vale 19 Aberavon 17

HOME > Sep 7th: Ebbw Vale 19 Aberavon 17

Second half tries from Stef Thomas, Ronny Kynes and Ashley Sweet and two Rhys Jones conversions, gave Ebbw Vale a remarkable comeback win over Aberavon, who had led 17-0 at half time. Having been second best in the first 40 minutes, the Steelmen were rejuvenated after the break and dominated the Wizards to earn a deserved victory. Man of the Match was Ebbw’s number 8, Lewis Young.

15) Dan Haymond 14) Steffan Thomas 13) Carl Meyer 12) Dom Franchi 11) Toby Fricker 10) Rhys Jones 9) Matthew Flanagan 8) Lewis Young 7) Owen Young 6) Ronny Kynes (c) 5) Ashley Sweet 4) Lance Randall 3) Rob Sevenoaks 2) Rhys Francis 1) Joel Harries

16) Joe Franchi 17) Ross Jones 18) Curtis Hicks 19) Garin Price 20) Cameron Regan 21) Dai Jones 22) James Lewis 23) Paul King

It was a big night for Rob Sevenoaks who madehis 200th appearance as a Steelman and played the full 80!

= = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = = =

Ynglŷn â hanner cyntaf y gêm hon, wel, gorau po leiaf a ddywedir – o safbwynt Glynebwy, ta beth! Ar y llaw arall, bu Aberfan yn hapus dros ben â’u tri chais gan David Pritchard, Joe Tomalin-Reeves a Luke Davies bu’n rhoi’r fantais iddynt ar yr egwyl, 17-0. A dweud y gwir, fu Glynebwy ddim yn y gêm, bron o gwbl, ac yn chwarae’n di-batrwm, heb bwrpas.

Bu popeth yn newid yn yr ail hanner. Aeth Stef Thomas drosodd am gais gwych yn yr ail funud, a Rhys Jones yn trosi’n berffaith o’r ystlys. Wrth i’r gêm barhau, bu blaenwyr Glynebwy yn drech na’u gwrthwynebwyr ac yn pwyso’n drwm arnynt. Ar ôl i Ashley Sweet fynd yn agos iawn at sgorio – ond ‘na’ meddai’r TMO – bu capten Ronny Kynes yn mynd dros y gwyngalch – “Catch’n’Kynes”, wrth gwrs, jyst i blesio Phil Steele oedd yn sylwebu ar y gêm –  i wneud y sgôr yn 12-17. Bu Sweet yn sicrhau gêm gyfartal ar 72 munud, a throsiad Jones yn rhoi Gwŷr y Dur yn y blaen am y tro cyntaf.

Gyda 7 munud ar ôl, bu’r Dewiniaid yn taflu popeth dan haul at Lynebwy, ond bu amddifyn y tîm cartre’n gryf, trefnus ac yn ymdopi’n ddigon cyffyrddus i gipio buddugoliaeth oedd i’w gweld yn annhebyg i’r eithaf awr yn gynt.

Seren y gêm oedd wythwr Glynebwy, Lewis Young.

 

 

Leave a Reply

LATEST NEWS

Match Report – Ebbw Vale RFC 32 Cardiff RFC 20

Ebbw Go Top The Steelmen provided a stirring second half performance to keep hold of the SRC Challenger Shield and move top of the league, after a game of two […]

Read More